Iesu yw tegwch mawr y byd
Yr Iesu mawr yw tegwch byd

Iesu yw tegwch mawr y byd,
  A thegwch pena'r nef:
Ac y mae'r cyfan sydd o werth
  Yn trigo ynddo Ef.

Mae ei ffyddlondeb fel y môr,
  Heb fesur ac heb drai;
A'i drugareddau hyfryd sy
  'N dragywydd yn parhau.

Fe wrendy 'nghri pan elwy'n wan,
  Ei gariad sydd yn fawr;
A byth nis gâd fi'n hir i gael
  Fy nghuro ar y llawr.

Ni fethodd gweddi daer erioed
  A chyrhaedd hyd y nef:
Ac mewn cyfyngder, f'enaid, rhed
  Yn uniawn ato Ef.

Yn mhob rhyw ddoniau mae yn fawr,
  Anfeidrol yw ei rym;
Ac nid oes pwysau ar Ei ras,
  Na'i haeddiant dwyfol ddim.

Ac nid oes gyfall mewn un man
  Cyffelyb iddo'n bod,
Pe baem yn chwilio'r ddaear faith,
  A holl derfynau'r rhod.

             - - - - -

Iesu yw tegwch mawr y byd,
  A thegwch pena'r nef:
Ac y mae'r cwbwl sydd o werth
  Yn trigo ynddo Ef.

Ac megys pren afalau pêr,
  Yn nganol prenau'r coed;
Felly f'Anwylyd, yntau'n mhlith
  Y meibion sy'n cael clod.

Eisteddais dan ei cysgod Ef,
  A'i ffrwyth oedd felys iawn;
Ac yma treuliaf
    ddyddiau f'oes,
  Fyth, fyth, yn ddedwydd iawn.

           - - - - -

Yr Iesu mawr yw
    tegwch byd,
  A thegwch pena'r nef;
Ac mae y cwbl sydd o werth
  Yn trigo ynddo Ef.

Os edrych wnaf i'r dwyrain draw,
  Gorllewin, gogledd, de;
Yn mhlith a fu, neu ynte ddaw,
  'Does debyg iddo Fe.
William Williams 1717-91

Tonau [MC 8686]:
Ballerma (F H Barthélémon 1741-1808)
Martyrdom (J Wilson 1800-49)
St Magnus (Jeremiah Clarke 1668-1707)
St David's (Thomas Ravenscroft 1592-1635)

gwelir:
  Agorwyd pyrth y nefoedd wen
  Cyflawnder nerth cyflawnder gras
  Darfyddwn son am bleser mwy
  'Dyw'n ofni'r bedd 'dwy'n ofni'r groes
  Fe'm siomwyd gan bleserau'r llawr
  Iesu sy'n fwy na'r nef ei hun
  Iesu yw 'Mrawd a 'Mhriod pur
  Mae yn yr Iesu drysor mwy
  Mi âf ymlaen yn nerth y nef
  Ni fethodd gweddi daer erioed
  Ni throf fy wyneb byth yn ol
  Pan byddo f'Arglwydd imi'n rhoi
  'Rwy'n ffrynd i'r bedd 'rwy'n ffrynd i'r groes
  Yn mysg gwyryfon Seion fry

Jesus is the great comeliness of the world,
  And the chief comeliness of heaven:
And everything that is of worth
  Resides within Him.

His faithfulness is like the sea,
  Without measure and without ebbing;
And his mercies delightful are
  Eternally enduring.

He listens to my cry when I weakly go,
  His love is great;
And never will he leave me long to get
  Beaten on the ground.

Earnest prayer never failed
  And reaches as far as heaven:
And in straits, my soul, run
  Directly to Him.

In every kind of gifts he is great,
  Immeasurable is his force;
And there is nothing close to His grace
  Nor his divine merit at all.

And there is no friend in any place
  Existing comparable to him,
If I should search the vast earth,
  And all the ends of the sky.

                - - - - -

Jesus is the great comeliness of the world,
  And the chief comeliness of heaven:
And all that is of worth is
  Dwelling in Him.

And like a sweet apple tree,
  In the middle of the trees of the wood;
Thus my Beloved, he amongst
  The sons who are getting praise.

I sat beneath His shadow,
  And his fruit was very sweet;
And here I will spend the
    days of my lifespan,
  Forever and ever very happily.

                - - - - -

The great Jesus is the
    comeliness of a world,
  And the chief comeliness of heaven;
And the whole of what is of worth is
  Residing in him.

If look I do to yonder east,
  West, north, south;
Amongst what was, or yet shall come,
  There is nothing similar to Him.
tr. 2013,19 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~